Hen ferchetan wedi colli'i chariad Cael un arall, dyna oedd ei bwriad Ond nid oedd un o lancie'r pentre
Am briodi Lisa fach yr Hendre Hen ferchetan sydd yn dal i dreio Gwisgo lasys sidan ac ymbincio Ond er bod brân i frân yn rhywle Nid oes neb i Lisa fach yr Hendre Hen ferchetan bron â thorri'i chalon Mynd i'r llan mae pawb o'i hen gariadon Bydd tatws newydd ar bren 'falau Cyn priodith Lisa fach yr Hendre Hen ferchetan aeth i Ffair y Bala Gweld Siôn Prys yn fachgen digon smala Gair a ddywedodd wrth fynd adre' Gododd galon Lisa fach yr Hendre Hen ferchetan wedi colli'i chariad Cael un arall, dyna oedd ei bwriad Ond nid oedd un o lancie'r pentre Am briodi Lisa fach yr Hendre
Últimas atividades
